st-tysul-church

ER COF AM EIN HARWYR O’R RHYFEL BYD CYNTAF

Cyflwynir yr Arddangosfa i bawb a wasanaethodd o Landysul a’r Cylch

Mae'r Arddangosfa yn Llyfrgell Llandysul ar y llawr gyntaf, mae lifft ar gael.

Dydd Mawrth a Ddydd Iau 10yb – 5yp a Ddydd Sadwrn 10 yb – 1 yp

 
Mae'r Arddangosfa yn cynnwys o'r 390 o fechgyn a merched o'r ardal a wasanaethodd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Mae ein harddangosfa yn cynnwys lluniau, clipiau o bapurau newydd ac atgofion gan berthnasau.

Gan fod lle yn gyfyngedig, gallwn ond arddangos gwybodaeth am rai a wasanaethodd.  Croeso i chwi i edrych yn ein Ffolderi Archif lle gwelwch wybodaeth rydym wedi ei ganfod.

Mae ymchwilwyr gwirfoddol yn parhau i weithio ar y prosiect hwn. Os oes gennych unrhyw wybodaeth ychwanegol ynglŷn â’r hyn sydd wedi ei arddangos yma, neu ynglŷn ag unrhyw un nad ydym wedi ei gofnodi hyd yn hyn, gofynnwn yn garedig i chwi gysylltu â ni a byddwn yn falch i’w gynnwys yn ein Harchif.

 

Bydd yr Arddangosfa hon yn Llyfrgell Llandysul tan Mehefin 2019.

Go to top