st-tysul-church

Yn 2016, rhoddodd Andrew Williams, (Aelod o’r Gymdeithas), gyflwyniad diddorol iawn yn olrhain “Hanes Moduro yng Ngheredigion”. Roedd hwn wedi ei seilio ar yr holl waith a wnaed ganddo i adysgrifennu holl lyfrau cofrestu moduron yng Ngheredigion, hynny yw, pob un yn dechrau gyda’r llythrennau “EJ”.

Crëodd Andrew fâs-data er mwyn hwyluso’r gwaith o ymchwilio’r rhifau a’u perchnogion, ac mae hwn, erbyn hyn, yn fyw ar safle ŵe Archifdy Ceredigion, er mwyn i bawb ei ddefnyddio: http://www.archifdy-ceredigion.org.uk/vehiclesdb.php

Go to top